Gallwch hepgor yr adran yma os na fyddwch yn gosod cyfrineiriau rhwydwaith. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i rheolwr eich system am gymorth.
Heblaw'ch bod yn gosod cyfrinair NIS, byddwch yn sylwi bod MD5 a chysgod wedi'u dewis ill dau. Bydd defnyddio'r ddau'n gwneud eich system mor ddiogel â sydd bosib.
Mae Caniatáu Cyfrineiriau MD5 - yn caniatáu defnyddio cyfrinair hir (hyd at 256 nod).
Mae Defnyddio Cyfrineiriau Cysgod - yn darparu dull diogel iawn o gadw cyfrineiriau ar eich cyfer.
Mae Enable NIS - yn caniatáu i chi redeg grŵp o gyfrifiaduron yn yr un parth Gwasanaeth Gwybodaeth Rhwydwaith (NIS) â chyfrinair a ffeil grŵp yn gyffredin rhyngddynt. Mae dau ddewisiad i'w dewis rhyngddynt:
Noder: I gyflunio'r dewisiad NIS, rhaid eich bod wedi'ch cysylltu â rhwydwaith NIS. Os ydych yn ansicr a ydych wedi'ch cysylltu â rhwydwaith NIS, gofynwch i reolwr eich system.
Parth NIS - caniatâ'r dewisiad yma i chi benodi pa barth neu grŵp o gyfrifiaduron y bydd eich system yn perthyn iddi/o.
Gweinydd NIS - achosa'r dewisiad yma i'ch cyfrifiadur ddefnyddio gweinydd NIS penodol, yn hytrach na "darlledu" neges i'r rwydwaith leol yn gofyn am unrhyw weinydd ar gael i westeio'ch system.
Galluogi LDAP - Mae LDAP yn cyfnerthu mathau penodol o ddata o fewn eich sefydliad. Mae tri dewis i ddewis rhyngddynt yma:
Gweinydd LDAP - galluoga'r dewisiad yma i chi gyrchu gweinydd sy'n rhedeg y protocol LDAP.
DN Sail LDAP - galluoga'r dewisiad yma i chi chwilio gwybodaeth defnyddiwr gan ei Enw Gwahaniaethol (DN).
Defnyddio chwiliadau TLS (Diogelwch Haen Drawsgludo (TLS)) - galluoga'r dewisiad yma i LDAP anfon enwau defnyddwyr a chyfrineiriau amgryptiedig i weinydd LDAP cyn dilysiant.
Galluogi Kerberos - System ddiogel ar gyfer darparu gwasanaethau dilysiant rhwydwaith yw Kerberos. Mae tri dewis i ddewis rhyngddynt yma:
Bro - galluoga'r dewisiad yma i chi gyrchu rhwydwaith sy'n defnyddio Kerberos, wedi ei chyfansoddi o un neu ychydig o weinyddion ( a elwir hefyd yn KDCau) a nifer (mawr iawn o bosib) o ddibynyddion.
KDC - galluoga'r dewisiad yma i chi gyrchu'r Ganolfan Dosbarthu Allweddi (KDC), peiriant sy'n cyhoeddi tocynnau Kerberos (a elwir weithiau'n Weinydd CaniatáuTocynnau neu TGS).
Gweinydd Gweinyddol - caniatâ'r dewisiad yma i chi gyrchu gweinydd sy'n rhedeg kadmind.
Galluogi Dilysiant SMB - Gosoda PAM i ddefnyddio gweinydd SMB i ddilysu defnyddwyr. Rhaid i chi roi ddau ddarn o wybodaeth yma:
Gweinydd SMB - Noda pa weinydd SMB y bydd eich gweithfan yn cysylltu iddo am ddilysiant.
Mae'r modwl pam_smb yn cynnal cael gweinydd cynradd ac eiledol. Gallwch roi gweinydd SMB eiledol drwy wahanu'r gweinyddion cynradd ac eiledol âg atalnod.
Grŵp gwaith SMB - Noda pa grŵp gwaith y mae'r gweinyddion SMB ynddo.